Gwylwyr y glannau

Gwylwyr y glannau
Mathsefydliad achub ar y môr, asiantaeth arbenigol sy'n gorfodi'r gyfraith, cangen o'r fyddin Edit this on Wikidata
Rhan ollynges Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Badau gwylwyr glannau Japan yn ymarfer yn erbyn cwch o "fôr-ladron".

Llu arforol sydd yn gorfodi deddfau'r wlad ar y môr ac yn cynorthwyo llongau yw gwylwyr y glannau. Mewn rhai gwledydd mae gwylwyr y glannau yn un o ganghennau'r lluoedd arfog, ac yn aml hefyd yn un o'r gwasanaethau brys ac yn ymddwyn fel heddlu'r arfordir a gwasanaeth achub.

Gall gwylwyr y glannau fod yn gyfrifol am batrolio'r arfordir i atal smyglo a môr-ladrad, cynnal a chadw goleudai, bwiau, a chymhorthion mordwyo eraill, rhoi cymorth mewn argyfyngau i forwyr ac i'r rhai sy'n dioddef o drychinebau naturiol megis llifogydd a chorwyntoedd, torri'r iâ ar ddyfrffyrdd mewn gwledydd oer, a chasglu data meteorolegol.


Developed by StudentB